Dawn Bowden AS
 Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
 Llywodraeth Cymru

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
 —
 Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddDiwylliant@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddDiwylliant
 0300 200 6565
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddCulture@senedd.wales 
 senedd.wales/SeneddCulture
 0300 200 6565
 

 

 

 


7 Mehefin 2023

Ynghylch: Diogelu’r Casgliadau Cenedlaethol

 

Annwyl Dawn,

Diolch am eich llythyr dyddiedig 27 Ebrill 2023, mewn ymateb i’n pryderon ynghylch diogelu’r casgliadau cenedlaethol.

Buom yn trafod eich llythyr yn ein cyfarfod ddydd Mercher 10 Mai 2023. Mynegodd yr Aelodau bryderon am y risg i gasgliadau cenedlaethol ein cenedl gan gyfeirio at y tân yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2013, pan ddifrodwyd rhan o’r casgliad, yn ogystal â’r tân yn Amgueddfa Genedlaethol Brasil yn 2018, pan gafwyd colledion sylweddol ac anadferadwy. Yn ogystal, yn ystod ymweliad diweddar â Dulyn, ymwelodd yr Aelodau â llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn. Yn y llyfrgell, clywsom am y rhaglen fuddsoddi sylweddol a pharhaus i adfer ac uwchraddio hen adeilad llyfrgell y coleg a ysgogwyd yn sgil y tân yn Eglwys Gadeiriol Notre Dame ym Mharis a wnaeth ein hatgoffa ar fyrder bod angen diogelu. Mae’r enghreifftiau hyn yn adlewyrchu'r risg wirioneddol a achosir yn sgil buddsoddiad annigonol mewn gwelliannau hanfodol a gwaith cynnal a chadw i warchod casgliadau ac ystadau o werth diwylliannol a hanesyddol sylweddol.

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod ac yn derbyn yr anhawster sydd gan Lywodraeth Cymru wrth flaenoriaethu adnoddau o ystyried y setliad cyllideb heriol a’r pwysau ychwanegol ar gostau byw. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod o’r farn, fel y mynegwyd i chi yn flaenorol yn ein llythyr dyddiedig 28 Mawrth 2023, bod diogelu ein casgliadau cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn flaenoriaeth. Nid ydym wedi ein sicrhau bod digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r bygythiad difrifol posibl i gasgliadau pwysig Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

O ystyried pa mor ddwfn yw pryder parhaus y Pwyllgor, ac er mwyn sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i’r sefydliadau hyn dros y tymor hwy, byddem yn ddiolchgar o ddeall y canlynol:

§    Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ddeall y risgiau i’r casgliadau pwysig hyn ac i flaenoriaethu a lliniaru’r risgiau hynny o ystyried bod pwysau ariannu yn debygol o barhau am beth amser.

§    Pa sicrwydd tystiolaethol y gallwch ei roi i’r Pwyllgor fod y casgliadau cenedlaethol a gedwir yn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiogel ac y byddant yn parhau i fod yn ddioge.

Byddem yn ddiolchgar am ymateb ystyriol i'n cwestiynau maes o law.

Yn gywir,

Text, letter  Description automatically generated

Delyth Jewell AS

Cadeirydd y Pwyllgor

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.